Dim ond ar-lein allwch chi wneud archebion. Byddwn yn cadw’r offer i chi ei logi dim ond pan fyddwn wedi derbyn taliad ar-lein.

Terfynau Oedran
Rhaid bod yn 8 oed o leiaf i wneud y gweithgareddau.
Rhaid i blant 8-12 oed fod yng nghwmni oedolyn dros 18 oed.
Dylai gweithgareddau plant dan 18 oed gael eu harchebu ar-lein gan riant neu warchodwr.
Cleient yn canslo
Os byddwch yn canslo lai na 24 awr cyn amser cychwyn eich sesiwn, yna byddwch yn colli’r arian.
Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion (CBW) yn canslo
Ni fyddwn yn canslo sesiynau llogi os yw’r rhagolygon yn wael, h.y. glaw / cymylog. Dim ond os ydyn ni o’r farn bod yr amodau’n anniogel y byddwn ni’n canslo.
Rydyn ni’n cadw’r hawl i ganslo os oes, yn ein barn ni, unrhyw risgiau na ellir eu rheoli.
Os byddwn yn canslo, byddwn yn cynnig naill ai ad-daliad llawn, neu ddyddiad/dyddiadau gwahanol.
Nid yw atebolrwydd Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion yn ymestyn y tu hwnt i’r pwyntiau uchod.
Nid yw yswiriant personol wedi’i gynnwys yn y ffi.

COVID19
Ni fydd cwsmeriaid sy’n arddangos symptomau neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sy’n arddangos symptomau neu sydd wedi profi’n bositif yn cael cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd a bydd rhaid iddyn nhw ddychwelyd adref a chadw at gyngor Llywodraeth Cymru ar ynysu.

Ffitrwydd Corfforol
Rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan fod yn hyderus yn y dŵr.
Rhaid i chi ein hysbysu am unrhyw salwch neu anabledd meddygol wrth archebu. Os ydych yn dioddef o asthma, diabetes, epilepsi, cyfnodau o bendro, angina, neu gyflyrau eraill ar y galon, dylech wirio gyda’ch meddyg cyn archebu a dylech fod yn barod i ddangos nodyn gan eich meddyg os oes angen. Bydd methu â datgelu cyflyrau meddygol yn rhyddhau Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion o unrhyw atebolrwydd.

Diogelwch
Mae gweithgareddau antur a chwaraeon dŵr yn beryglus oherwydd eu natur.
Mae’r rhai sy’n cymryd rhan, rhieni neu warcheidwaid yn derbyn y gallai risgiau, cnociau a chrafiadau ddigwydd yn ystod gweithgareddau sy’n symud yn gyflym.
Dim ond staff profiadol cymwys rydyn ni’n eu cyflogi.
Rydym yn darparu cymhorthion arnofio.
Mae gennym systemau rheolaeth a diogelwch cadarn, sydd wedi’u harchwilio gan gyrff cymeradwy megis AALA, WSA a RYA.
Ni all CBW dderbyn cyfrifoldeb am eitemau personol sy’n cael eu gadael yn y Ganolfan.
Efallai y byddwn yn cymryd ffotograffau neu fideos o’r gweithgareddau i’w defnyddio wrth roi cyhoeddusrwydd CBW.
Wedi’i ddiwygio 09/06/2023
……………………………………………………………………………………………………………………………
COD YMDDYGIAD CADWRAETH MÔR CEREDIGION
Mae’r cod hwn yn berthnasol i bob cwch hamdden gan gynnwys cychod modur, cychod hwylio, dingis, cwch personol, caiacau, canŵs a phadlfyrddau.
Yn gyffredinol cadwch eich llygaid ar agor a chadwch eich pellter. Peidiwch â mynd at famaliaid morol, gadewch iddyn nhw ddod atoch chi.
Gweithredwch bob cwch gyda gofal, gan roi sylw i ddiogelwch y deiliaid a dangos parch tuag at holl ddefnyddwyr eraill y môr. Peidiwch â thaflu sbwriel na thacl pysgota i’r môr.

Dolffiniaid, Llamhidyddion a Morloi
Os dewch chi ar draws y mamaliaid morol hyn ar y môr:
Arafwch yn raddol i’r isafswm cyflymder. Peidiwch â gwneud newidiadau sydyn o ran cyflymder neu gyfeiriad.
Peidiwch â symud tuag atynt na mynd o fewn 100m iddynt.
Peidiwch â cheisio eu cyffwrdd, eu bwydo na nofio gyda nhw.
Byddwch yn dra-gofalus i beidio â tharfu ar anifeiliaid sydd â rhai bach.
Peidiwch â mynd at forloi sy’n gorffwys ar y lan, a pheidiwch â mynd i mewn i ogofâu môr yn ystod tymor y morloi bychain (1 Awst i 31 Hydref).
Ceisiwch osgoi gwneud unrhyw sŵn diangen yn agos at yr anifeiliaid.
Adar
Cadwch draw o glogwyni yn ystod y tymor bridio, 1 Mawrth – 31 Gorffennaf.
Ceisiwch osgoi gwneud unrhyw sŵn diangen yn agos at glogwyni.
Cadwch draw oddi wrth dyrrau o adar sy’n gorffwys neu’n bwydo ar y môr.