Talebau Rhodd

Gallwch brynu taleb gwerth £5 hyd at £300, y gellir ei defnyddio sawl gwaith gyda Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion.

O logi offer am awr am £20, i wneud cwrs dau ddiwrnod am £185, mae yna rywbeth at ddant pawb. Edrychwch ar y tudalennau Gweithgareddau i weld beth yw pris y gwahanol gyrsiau.

Mae’r talebau’n ddilys am gyfnod o flwyddyn o’r dyddiad prynu. Gallwch ddefnyddio’r talebau i dalu am unrhyw un o’n gweithgareddau. Os nad oes dyddiau ar gael ar y calendr ar gyfer gweithgaredd arbennig, cysylltwch â’r swyddfa ac fe drefnwn ni rywbeth i’ch siwtio chi.

Isafswm oedran o 8; rhaid i blant dan 12 fod gydag oedolion cyfrifol (18+) ar y dŵr. Ar gyfer sesiynau hyfforddiant, yr hyfforddwr sy’n cyfrif fel yr oedolyn.