Pam rhoi i Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion?

Wedi’i sefydlu yn 2003 ac yn elusen gofrestredig ers 2006, mae’r Ganolfan yn cefnogi amrywiaeth eang o ysgolion, grwpiau ieuenctid ac eraill, ac ni fydd y ganolfan yn codi llawer mwy arnynt na’r hyn mae’n gostio i’w cynnal.

Mae gennym grŵp ffyddlon o wirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser i helpu ar y dŵr, ac oddi arno. Ond, gan mai tymor byr iawn sydd gennym i greu incwm, dibynna’r Ganolfan ar arian grant i brynu offer newydd yn lle hen rai sydd wedi gwisgo ac i dalu am hyfforddi staff.

Rhoddion

Gyda’ch help chi, gallwn fod yn fwy hyderus am ddyfodol y sefydliad.

Does dim angen cyfrif PayPal arnoch i roi arian. Ar dudalen PayPal fe welwch chi’r opsiwn ‘Use your credit card or bank account (where available).’ Drwy glicio ar ‘Continue’ byddwch yn gallu rhoi arian â cherdyn banc.

Mae nifer cynyddol o’n hyfforddwyr ifanc wedi mynd ymlaen i ddod o hyd i waith llawn amser gydol y flwyddyn, diolch i’r profiad a gawson nhw’n gweithio yn y Ganolfan.

Mae llawer o’n myfyrwyr wedi ennill sgiliau bywyd y gallan nhw eu defnyddio yn y byd go iawn ar ôl cwblhau ein cyrsiau.

Daeth y Ganolfan yn adnodd gwerthfawr i Geredigion drwyddi draw, nid dim ond i Geinewydd!

Sunday spalsh

Gwirfoddoli

Mae ystod eang o gyfleoedd ar gael gennym ar gyfer pob oedran a phob lefel gallu. Does dim angen i chi fod yn arbenigwr yn unrhyw un o’r chwaraeon dŵr rydyn ni’n eu darparu. Gallwn gynnig cyfleoedd gwirfoddoli rhan amser ar gyfer:

Plant oedran ysgol sy’n chwilio am brofiad gwaith

Selogion chwaraeon dŵr profiadol

Rheiny sydd â thocynnau hyfforddwyr

Swyddi

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n chwilio am aelod o staff gweinyddol rhan-amser i wneud gwaith swyddfa/cwrdd a chyfarch. Os ydy’r syniad o ychydig ddyddiau’r wythnos yn croesawu pobl, rhoi trefn ar (a glanhau!) offer, sicrhau bod y Ganolfan yn edrych yn daclus a diweddaru’r systemau cyfrifiadurol yn apelio atoch, yna e-bostiwch info@cardiganbaywatersports.org.uk.

Mwy o wybodaeth: https://www.cardiganbaywatersports.org.uk/about-us/vacancies

Gan fod ein tymor gwaith yn fyr, byddwn yn ail-benodi hyfforddwyr bob blwyddyn, ac efallai y bydd rhywfaint o waith ar gael i rai sydd â chymwysterau perthnasol. Anfonwch eich CV i’r e-bost uchod a rhowch syniad i ni o bwy ydych chi a beth allwch chi ei gynnig.