Agorodd Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion ei ddrysau ar 1 Gorffennaf 2003 fel prosiect datblygu cymunedol dan arweiniad cwmni datblygu Ceinewydd, Cei Dev Ltd. Daeth yr arian i gychwyn y prosiect o gronfa menter Amcan 1 yr UE, gyda grant gan Sport Lot i dalu am yr adeilad, y cychod a’r offer ac ysgogi’r fenter am dair blynedd.
Cyngor Sir Ceredigion wnaeth ddarparu’r safle ar gyfer y Ganolfan a’r lle cychod.
Daeth Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion (Cardigan Bay Waterports – CBW) yn Elusen Gofrestredig ac yn Gwmni Cyfyngedig gan Warant yn 2006, a chymerodd gyfrifoldeb dros y gwaith rhedeg a rheoli yn annibynnol ar Cei Dev ym mis Ebrill 2007.
Mae dyfroedd cysgodol Cei Newydd yn gartref naturiol i weithgareddau dŵr. Mae’r Ganolfan yn darparu profiadau o ansawdd uchel ac ystod dda o offer cyfredol. Datblygodd amrywiaeth o weithgareddau a rhaglenni hyfforddi dros y blynyddoedd i ddiwallu anghenion amrywiaeth eang o ddefnyddwyr, gan gynnwys ysgolion, clybiau, busnesau ac amrywiaeth o drigolion ac ymwelwyr i’r ardal.
Roedd yr arlwy cychwynnol yn cynnwys hwylio a chaiacio. Yn ddiweddarach, cafodd hwylfyrddio, hwylio celfadau (keelboats) a hyfforddiant cychod pŵer eu hychwanegu at y portffolio. Cafodd padlfyrddau eu cynnig am y tro cyntaf yn 2012, yn ogystal â gwersi padlfyrddio a dosbarthiadau paddle-aerobics. Yn 2015 fe wnaethom ychwanegu gweithgareddau egnïol at yr arlwy: tonfyrddio, sgïo dŵr a hwylio catamaran.
Erbyn 2022, cafodd camp newydd a chyffrous o’r enw adensyrffio (wingsurfing) ei chyflwyno. Rydyn ni’n parhau i gadw llygad barcud ar y datblygiadau ym maes chwaraeon dŵr er mwyn sicrhau ein bod ar flaen y gad.
Bu’r Ganolfan yn ffodus iawn i ddenu grantiau a rhoddion o’r cronfeydd canlynol:
Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, SportsLot, Chwaraeon Cymru / Sports Match Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cist Gymunedol Ceredigion, Cynllun Grant Cymunedol Ceredigion, Cronfa Twf Menter Gymdeithasol Ceredigion, Cronfa Buddsoddiad Lleol De-orllewin Cymru, Llu Cymunedol NatWest, Ymddiriedolaeth Pentwyn, Ymddiriedolaeth Elusennol VCT, Ymddiriedolaeth Elusennol Reardon Smith, Ymddiriedolaeth Maureen Lilian, Ymddiriedolaeth Gwalch Glas, Ymddiriedolaeth Whirlwind, Sefydliad Syr John Fisher, RL Wales Limited, Innovis Limited, Pugh Computers Limited, Cronfa Cymunedau Arfordirol, Sported.
Mae Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion bellach yn rhan sefydledig o’r sîn chwaraeon dŵr yng Nghymru. Mae’n parhau i gydweithio â Chlwb Hwylio Ceinewydd ac yn rhoi cyfleoedd hyfforddi i glybiau cyfagos, fel y Tresaith Mariners a Chlwb Hwylio Prifysgol Aberystwyth. Daeth y ganolfan yn un o ddarparwyr cyntaf y cynllun datblygu hwylio RYA On-Board yng Nghymru ac mae ganddi berthynas gref â RYA Cymru.
Mae gan y tîm rheoli presennol weledigaeth gref i ehangu a datblygu chwaraeon dŵr yng Ngheinewydd, a thrwy hynny barhau i gyfrannu at lesiant cymdeithasol ac economaidd yr ardal a darparu cyfleusterau hamdden o’r radd flaenaf yn amgylchedd hyfryd Bae Ceredigion.